Croeso i wefan NATUR  Croeso i wefan NATUR

Mae NATUR, Sefydliad Rheolaeth Cefn Gwlad a Chadwraeth Cymru, yn sefydliad proffesiynol ar gyfer pobl sy'n rheoli, diogelu a hyrwyddo amgylchedd byw a diwylliannol tir a môr

Beth bynnag fo maes eich diddordeb a’ch cyfrifoldeb, y mynyddoedd neu’r môr, afonydd, caeau neu barciau trefol, ardaloedd cefn gwlad neu ôl-ddiwydiannol, mae aelodaeth NATUR ar eich cyfer chi.  Bydd yn codi eich proffil fel gweithiwr proffesiynol rheoli cefn gwlad a chadwraeth, ac yn hwyluso a hyrwyddo datblygiad eich gyrfa.

Beth bynnag fo lefel eich profiad, gyda blynyddoedd o brofiad neu ond yn cychwyn ar eich gyrfa, bydd ymuno â NATUR yn rhoi i chi:

• Statws proffesiynol: fe gydnabyddir aelodaeth NATUR yn safon gyffredin gan bob un o’r cyflogwyr mawr yng Nghymru
• Adnoddau i hyrwyddo datblygiad gyrfa: mentor i weithio efo chi gan ddefnyddio Skills Manager - ein teclyn ar-lein pwrpasol, teclyn i’ch helpu i gofnodi eich profiad a’ch cyflawniadau ac uchafu eich addasrwydd i gael eich cyflogi.
Mynediad am ddim i ddigwyddiadau NATUR a disgownt ar gyrsiau hyfforddi proffesiynol gyda’n partneriaid sy’n ddarparwyr hyfforddiant (gweler manylion isod)
• Cyfleoedd i rannu profiadau a sgiliau ag eraill, yn ein digwyddiadau neu fel mentor – a throsglwyddo eich profiad i’r genhedlaeth nesaf

Categorïau aelodaeth

Ydych chi: ar ddechrau eich gyrfa, newydd orffen cwrs neu’n dechrau chwilio am waith mewn rheolaeth cefn gwlad a chadwraeth? Yna Aelodaeth Gysylltiol yw’r un i chi.  Gyda mentor, fe fyddwch yn datblygu cynllun gyrfa i ehangu eich sgiliau ac uchafu eich addasrwydd i gael eich cyflogi.  Mae’r gystadleuaeth am swyddi a chytundebau mewn cadwraeth yn cynyddu.  Fel aelod cysylltiol o NATUR, fe gydnabyddir eich ymrwymiad gan bob un o’r cyflogwyr mawr yng Nghymru.

Ydych chi: yn berson proffesiynol profiadol mewn rheolaeth cefn gwlad a chadwraeth? Yna Aelodaeth Lawn yw’r un i chi.  Cydnabyddir aelodaeth NATUR fel bathodyn rhagoriaeth gan bob un o’r cyrff cadwraethol mawr yng Nghymru: y Parciau Cenedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cadw, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Ymddiriedolaethau Archeolegol y siroedd, Ymddiriedolaeth Groundwork, Lantra a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Bydd Aelodau Llawn a Chysylltiol yn derbyn:
• Mentora a chefnogaeth
• Natur Cymru: y cyhoeddiad chwarterol am natur a’r amgylchedd yng Nghymru
• Hysbysiad ymlaen llaw o ddigwyddiadau NATUR a gallu bwcio ymlaen llaw a disgownt ar ddigwyddiadau hyfforddi a chynadleddau NATUR
• Disgownt o 10% ar gyrsiau proffesiynol yr FSC yn y Canolfannau Cymreig
• Disgownt o 20% ar gyrsiau proffesiynol y Shared Earth Trust ar Fferm Denmark
• Cyrchiad i system LANTRA Skills Manager drwy wefan NATUR: teclyn i helpu aelodau gofnodi eu cymwysterau a’u profiad a chynllunio datblygiad eu gyrfa.

Sut i ymuno:
Edrychwch ar y rhestr o feini prawf ar y dudalen Ymunwch â NATUR, sydd â ffurflenni aelodaeth gysylltiol ac aelodaeth lawn y gellir eu lawrlwytho.

Aelodaeth Gyswllt
Efallai nad ydych chi’n gweithio ym myd cadwraeth ond fe hoffech gefnogi amcanion NATUR?  Os felly gallwch gefnogi ein gwaith drwy ymuno fel Aelod Cyswllt.  Gallwch lawrlwytho’r ffurflen cyswllt yn syml iawn a’i dychwelyd i swyddfa NATUR.
Fel aelod cyswllt byddwch yn derbyn pedwar copi'r flwyddyn o gylchgrawn Natur Cymru, o leiaf ddau o dripiau a fydd wedi eu trefnu’n arbennig ar gyfer ein cefnogwyr, a’r cyfle i ddod i gynadleddau, seminarau a digwyddiadau eraill.


Natur News and Events